Cyfeiriannu yn Nant Gwrtheyrn
Aeth plant blwyddyn 5 a 6 i gyfeiriannu efo Rhostryfan heddiw. Efallai bod rhai ohonoch ddim yn siwr beth yw cyfeiriannu , ras ydi o, ond efo’r ras yma rhaid darllen map a rasio ar yr un pryd. Os ydym yn mynd yn bell bydd angen chwib a chwmpawd arnom hefyd. Felly mae’n rhaid body n dda am redeg a darllen map er mwyn gwneud yn dda.
Mae Nant Gwrtheyrn yn lle bendigedig i gyfeiriannu yno – neu dim ond i fynd am dro. Mae’r lle yn fendigenig oherwydd ei fod mor ddistaw a fod yna lan y mor a choedwig, lle i ddysgu Cymraeg a chaffi Rhys a Meinir. Mae o hefyd yn lle llawn hanesion diddorol.
Gwnaethom lawer o gyfeiriannu. yn ystod y prynhawn, ac yn well na hynny roeddym yn fuddigol., gan ennill o 1 pwynt - buddigoliaeth wych.. Roedd yn ddiwrnod arbennig o braf dim mymryn o law yn unman, na chwa o wynt na chwmwl yn yr awyr. Roeddem ni yn lwcus i gael diwrnod mor braf.
